Na i Beilonau Dyffryn Tywi!

Crëwyd y grŵp hwn i fod yn llais i gymunedau Llanymddyfri, Llandeilo a’r ardaloedd cyfagos wrth wrthwynebu cynigion Bute Energy/Green GEN Cymru i godi dros 60 milltir o beilonau trydan i gysylltu Parc Ynni Nant Mithil yng Nghoedwig Maesyfed, Powys ag is-orsaf newydd gan y Grid Cenedlaethol ger Llandyfaelog, rhwng Caerfyrddin a Phont Abraham.

Rydym yn llwyr gefnogi ynni adnewyddadwy ond nid ydym yn credu y dylai ei ddatblygu fod ar draul yr amgylchedd lleol a’r bobl sy’n byw ynddo. Mae opsiynau gwell!

Nid yw’r cynnig hwn yn cynnig fawr ddim budd, os o gwbl, i Gymru, sydd eisoes yn cynhyrchu mwy o ynni trydanol nag a ddefnyddiwn. Mae'r ymdrech tuag at allyriadau nwyon tŷ gwydr Net Zero wedi agor y drysau i gwmnïau preifat wneud elw enfawr. Ni ddylai ein tirwedd werthfawr fod ar werth!

Bydd amgylchedd ein cartrefi a'n busnesau yn cael ei newid yn barhaol wrth adeiladu'r prosiect hwn. Er hynny, bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud gan y rhai sy'n byw yn rhywle arall, yn seiliedig ar gynigion gan Bute Energy nad oes ganddynt hyd yma hanes o ddarparu neu reoli seilwaith pŵer mawr. Felly rydyn ni'n dweud NA wrth beilonau trwy ein dyffryn!