Daethom at ein gilydd am ein bod yn rhannu pryder: Roeddem yn poeni bod y cynllun peilonau hwn yn cael ei greu ar frys, cyn ymgynghori ar strategaeth genedlaethol gydlynol ar gyfer seilwaith ynni cynaliadwy, a heb unrhyw fudd amlwg i bobl Cymru, a fyddai'n teimlo'r effeithiau ar eu cartrefi a’u bywoliaeth. Wrth i’r cynlluniau gael eu rhyddhau ac wrth i wybodaeth am Bute Energy ddod i’r amlwg, roeddem yn gynyddol bryderus y byddai hwn yn ddatblygiad camfanteisiol ac amcanol, er mwyn elw yn unig, heb unrhyw ystyriaeth i amgylchedd na diwylliant Cymru. Roeddem hyd yn oed yn fwy pryderus am ganlyniadau posibl rhoi caniatâd ar gyfer datblygiad mor enfawr i gwmni heb unrhyw hanes o lwyddiant, sy'n cael ei ariannu gan fuddsoddwyr masnachol tramor.
Po fwyaf y dysgom, mwyaf oll yr oeddem yn pryderu. Roeddem wedi dychryn o glywed na fydd y cynigion yn diogelu rhwydwaith dosbarthu Cymru ar gyfer y dyfodol mewn unrhyw ffordd. Bydd unrhyw ynni sy’n symud trwy’r draffordd peilonau newydd hon yn ymuno â’r grid ym mhentrefan bach Llandyfaelog, ond mae cyfyngiadau’r rhwydwaith dosbarthu, sydd eisoes yn gweithredu hyd eithaf ei allu neu’n agos at hynny, yn golygu mai ychydig iawn o’r ynni hwn y gellir ei ddefnyddio yng Nghymru. Ni fydd unrhyw beth yn y cynigion hyn yn gwella gallu'r hyn a gynhyrchir yn lleol i gysylltu â'r grid, nac yn cynnal y seilwaith presennol sydd eisoes mewn perygl o gael ei orlwytho wrth i dechnoleg ceir trydan ddod yn gyffredin.
Mae profiad diweddar gyda’r diwydiant dŵr yn y DU wedi dangos canlyniadau meddylfryd elw-cyn-pobl o ran seilwaith cenedlaethol hanfodol. Teimlwn ei bod yn ddyletswydd arnom i gwestiynu cynigion o'r fath yn gryf ac amddiffyn ein tirwedd, ein treftadaeth, ein bioamrywiaeth a'n heconomi rhag cwmnïau nad yw eu hanes na'u bwriad yn hysbys.
Yn hytrach, byddwn yn ymgyrchu dros atal y cynnig hwn a datblygiadau tebyg nes bod llunwyr polisïau yn fodlon ymgynghori ar y cyfuniad ynni cenedlaethol, ac yn ymladd am y cyfaddawd gorau i’n rhanbarth ac i genedlaethau’r dyfodol a fydd yn byw ac yn gweithio yma.
Nid ydym yn credu bod angen i'r cyfaddawd hwn gynnwys peilonau. Os ydych yn cytuno â ni - ymunwch â ni