Mae Grŵp Gweithredu Peilonau Cymunedol Llanymddyfri yn grŵp cymunedol annibynnol sy’n ymgyrchu yn erbyn codi peilonau trydan 27m o uchder yn Nyffryn Tywi. Rydym yn wirfoddolwyr anwleidyddol, sydd ag ystod eang o arbenigedd a gwybodaeth, ac sy'n unedig yn ein hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i atal y cynnig hwn rhag mynd yn ei flaen. Credwn ein bod yn cynrychioli'r mwyafrif helaeth o drigolion Dyffryn Tywi ac ymwelwyr â'r ardal sydd hefyd yn erbyn y cynllun hwn, yn ogystal â nifer o gefnogwyr o ymhellach i ffwrdd. Rydym yn llwyr gefnogi ynni adnewyddadwy, ond credwn na ddylai ein hangen am ynni ddirywio'r cymunedau y mae'n mynd drwyddynt. Rhaid i unrhyw seilwaith ynni newydd hefyd barchu'r amgylchedd, nid ei niweidio. Mae Dyffryn Tywi yn ardal o harddwch naturiol eithriadol a threftadaeth, a dymunwn sicrhau ei fod yn parhau felly ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Byddai'r peilonau arfaethedig yn achosi difrod aruthrol yn lleol, ynghyd ag ôl-effeithiau cenedlaethol.
Mae cynnig Green GEN Tywi Wysg (Bute Energy/Green GEN Cymru) yn ymwneud ag adeiladu rhwydwaith trawsyrru trydan ar gyfer llinell uwchben cylched dwbl newydd 132 kV newydd trwy Ddyffryn Tywi. Byddai'r rhwydwaith yn cael ei gefnogi gan beilonau dur uchel (o leiaf 27 m o uchder – y pellter mwyaf rhyngddynt fyddai 250 m) rhwng is-orsaf ym mharc ynni arfaethedig Nant Mithil (na wnaed cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer eto) yn ardal Coedwig Maesyfed ac is-orsaf newydd i'w datblygu gan y Grid Cenedlaethol ar y llinell drawsyrru 400 kV bresennol ger Llandyfaelog, rhwng Caerfyrddin a Phont Abraham.
Byddai'r llwybr 60 milltir arfaethedig o beilonau yn torri trwy rai o'r tirweddau harddaf yng nghefn gwlad canolbarth Cymru. Byddai rhan helaeth o’r llwybr yn rhwygo trwy harddwch eithriadol Dyffryn Tywi ac yn agos at drefi Llanymddyfri a Llandeilo a'u pentrefi cyfagos. Credwn y byddai hyn yn cael effaith helaeth a hirdymor ar y dirwedd a’r economi leol, yn ogystal ag effeithiau andwyol ar yr amgylchedd, y cymunedau sy’n byw ac yn gweithio yma, ac i’r llu o bobl sy’n ymweld â’r ardal.
Mae hyn yn cael ei hyrwyddo fel 'llwybr ynni gwyrdd' ledled Cymru i ddarparu trydan ar gyfer byd Sero Net ac er budd Cymru. Fodd bynnag, mae Cymru eisoes yn allforiwr trydan net, sy'n darparu dwywaith ein hanghenion domestig, ac mae'n aneglur sut y byddai prosiectau fel yr un a gynigir gan Bute Energy/Green GEN Cymru o fudd i gymunedau Cymru. Rydym yn ymwybodol bod prosiectau eraill ar y môr yn y camau cynllunio ac adeiladu ar hyn o bryd a allai, o bosibl, ddarparu’r holl ynni gwyrdd y mae ei angen ar Gymru. Gan fod y seilwaith presennol yn gweithio hyd eithaf ei allu, neu’n agos at hynny, mae’n debygol mai ychydig iawn o’r pŵer a gynhyrchir gan brosiect Green GEN Tywi Wysg a fyddai’n cael ei ddefnyddio yng Nghymru ac y byddai'r rhan fwyaf ohono’n cael ei allforio.
Y llwybr a ffefrir gan Bute Energy/Green GEN Cymru:
Daeth y newyddion am y prosiect i'r amlwg ym mis Ionawr 2023, pan ddangoswyd dogfen i Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW), a oedd wedi’i hanfon gan Bute Energy at dirfeddianwyr ledled Cymru, yn sôn am eu cynigion. Ers hynny, mae cyfarfodydd cyhoeddus wedi’u cynnal ac mae grwpiau cymunedol wedi bod yn ffurfio ar hyd y llwybr i wrthwynebu’r hyn a ystyrir yn ddinistr gweledol yr ardaloedd yr effeithir arnynt, a hefyd yr effeithiau posibl ar ffermio a thwristiaeth, sy’n ffurfio asgwrn cefn yr ardal hon o Gymru a’r cymunedau sy’n byw ar hyd y llwybr. Mae deisebau ar-lein wedi’u sefydlu gan Gynghrair Cefn Gwlad Cymru a gwleidyddion lleol Plaid Cymru mewn gwrthwynebiad i’r cynlluniau, ac mae’r rhain eisoes wedi’u harwyddo gan filoedd o bobl. Mae yna wrthwynebiad clir a chadarn i’r cynlluniau hyn.
Cynhaliodd Bute Energy/Green GEN Cymru gyfarfodydd ymgynghori mewn pedwar lleoliad ar y llwybr, a gofynnwyd am adborth ar eu cynigion. Daeth cannoedd o bobl a bu grwpiau lleol yn helpu trigolion lleol i ysgrifennu eu llythyrau gwrthwynebu i’r cynllun erbyn y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad, sef 28 Ebrill 2023. Y camau nesaf 'nawr yw i Bute Energy/Green GEN Cymru, sydd eto i gael trwydded gan OFGEM, ystyried yr adborth a llunio adroddiad ymgynghori wrth iddynt ddechrau’r broses ffurfiol ar gyfer cyflwyno eu cais i adran Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW). Mae graddfa'r cynigion yn golygu y bydd y prosiect yn cael ei ddosbarthu fel Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS). PEDW sy'n prosesu ceisiadau DNS ar ran Gweinidogion Cymru, a nhw, yn y pen draw, fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd cynllunio.
Rydym ni, fel grŵp, ynghyd ag eraill, yn datblygu ein cynlluniau ein hunain i roi pwysau ar Bute Energy/Green GEN Cymru a PEDW. Rydym am warchod ein hardal wledig hardd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a pheidio â chaniatáu iddi gael ei difetha a’i dibrisio er mwyn gwneud elw.
I'r perwyl hwn rydym yn gwneud y canlynol:
Ymunwch â'n hymgyrch ar yr adeg dyngedfennol hon. Beth bynnag fo’ch rhesymau dros wrthwynebu’r prosiect hwn, cysylltwch â ni. Gallwch danysgrifio i'n rhestr bostio ar y dudalen Ymunwch â Ni neu Cysylltwch â Ni yma.
Rydym wedi mabwysiadu fersiwn ddiwygiedig o'r eiconig 'Cofiwch Dryweryn' fel ein harwyddlun. Y slogan a beintiwyd ar wal bwthyn adfeiliedig yng Ngheredigion ar ddechrau'r 1960au yn dilyn y penderfyniad yn 1965 i foddi Tryweryn er mwyn darparu dŵr i ddinas Lerpwl. Gwnaed hyn yn groes i ddymuniad y Cymry, a gwelwyd nid yn unig dŵr yn llifo allan o Gymru ond elw hefyd.
Mae ein slogan: ‘Cofiwch Ddyffryn Tywi' (Saesneg: ‘Remember the Towy Valley’) yn cydnabod y tebygrwydd rhwng yr hyn a ddigwyddodd yn Nhryweryn a'r hyn sy'n cael ei gynnig yn Nyffryn Tywi. Nid am resymau gwleidyddol yr ydym yn mabwysiadu’r slogan hwn ond oherwydd ein bod i gyd yn unedig y tu ôl ein cariad at gefn gwlad Cymru a’n treftadaeth a’r emosiynau pwerus y mae hynny’n eu hysgogi. Bwriad ein slogan yw atseinio gyda phawb sy'n barod i ymladd i amddiffyn nodweddion arbennig y wlad yr ydym yn ei charu yn erbyn y rhai a fyddai'n ei hysbeilio er budd ariannol gan esgus taclo'r argyfwng hinsawdd. Rydym am i chi gofio Dyffryn Tywi 'nawr a'n helpu ni i'w amddiffyn ac nid i'n slogan ddod yn un o atgof a gollwyd.