Effaith Weledol Peilonau - Map Rhyngweithiol

Gan ddefnyddio pŵer cyfrifiadurol ac algorithmau, rydym wedi llunio asesiad o'r effaith weledol mewn perthynas â’r llwybr peilonau a ffefrir gan Green Gen Cymru Tywi/Wysg. Mae'r map canlyniadol yn ein galluogi i nodi o le y bydd y peilonau arfaethedig i'w gweld a faint o beilonau fydd i'w gweld o'r union leoliad hwnnw.

Sut i ddarllen y map

Mae'r map asesiad gweledol wedi'i lunio ar gydraniad 1m. Mae hyn yn golygu am bob 1m2 gwnaed asesiad i weld a allai peilon fod yn weladwy o'r lleoliad hwnnw. Felly, bydd gan unrhyw leoliad a amlygir mewn coch ar y map o leiaf un peilon gweladwy. Po dywyllaf y coch y mwyaf o beilonau fydd i'w gweld o'r lleoliad hwnnw.

Mae'r map yn debyg i Google Maps, felly gallwch chwyddo i mewn i leoliadau sydd o ddiddordeb i chi i weld yr effaith weledol.

Cliciwch yma i gael mynediad i'r map yn uniongyrchol ar wefan Google Earth (yn agor mewn tab newydd)



Canlyniadau

Mae’r map yn rhoi tystiolaeth o’r effaith sylweddol y bydd y llwybr peilonau arfaethedig yn ei chael ar ein cymunedau.

Ychydig o brif ffeithiau:

  • Byddai'r peilonau arfaethedig yn effeithio'n weledol ar 142,503 erw (57,670 Hectar). Byddai tua 14% o Sir Gaerfyrddin yn gweld o leiaf un peilon.
  • Ffaith Diddorol: Pe baech yn gosod pob un o'r 388 o beilonau arfaethedig ar ben ei gilydd byddai hynny'n 10 x uchder Pen y Fan a hyd yn oed yn dalach (10,476m) na Mynydd Everest (8,849m)!!

Am y data

Er mwyn cynhyrchu’r map hwn, rydym wedi ei seilio ar nifer o ragdybiaethau – sy’n effeithio ar y ffordd rydych yn dehongli’r hyn y mae’r map yn ei ddangos i chi.

  • Mae'r map yn rhagdybio y gallwch weld peilon o bellter o 5km, fodd bynnag, gall amodau tywydd a ffactorau eraill leihau'r pellter hwn. Mae 5km yn ffigwr ceidwadol, gydag astudiaethau gwyddonol eraill yn yr Almaen yn awgrymu bod peilonau yn weladwy o 10km i ffwrdd, ac astudiaethau yn UDA yn awgrymu hyd yn oed ymhellach.
  • Mae'r map yn seiliedig ar ddata tirwedd sy'n golygu bod yr holl adeiladau, coed a gwrthrychau eraill yn y dirwedd wedi'u tynnu. Mae’n bosibl y byddai adeilad neu goeden fawr yn cuddio peilonau o leoliad map penodol, ac os felly fe allech chi mewn gwirionedd weld llai o beilonau o’r fan honno. Fodd bynnag, gan fod y dirwedd yn newid yn barhaus, er enghraifft gyda choed yn cael eu torri, ac o ystyried bod hyd oes peilon ar gyfartaledd yn 80 mlynedd, mae'n bwysig cynnal y dadansoddiad hwn gan ddefnyddio'r ddaear noeth yn unig.
  • Mae'r map yn rhagdybio bod peilon wedi'i leoli bob 250m ar hyd y llwybr. Pellter cyfartalog yw hwn, a gallai'r peilonau gael eu lleoli'n agosach at ei gilydd mewn mannau, a fyddai'n cynyddu'r effaith weledol.
  • Dim ond y peilonau eu hunain sy'n cyfrif ar y map, nid y llinellau trawsyrru rhwng y peilonau. Mae hyn yn golygu bod y map yn dangos amcangyfrif ceidwadol o'r effaith weledol gyffredinol.

O ystyried y tybiaethau hyn, dylid trin y map fel dangosydd o effaith weledol.

Dull

Mae'r dull a ddefnyddiwyd yn copïo'r dull a ddefnyddir gan gwmnïau datblygu yn y DU i asesu effeithiau gweledol datblygiadau, e.e. tyrbinau gwynt. Mae ein dull ni'n fwy cywir na’r rhan fwyaf gan ein bod wedi defnyddio set ddata LiDAR cydraniad 1m, tra bod y rhan fwyaf o asesiadau gweledol eraill yn defnyddio data Modelau Tir Digidol (DTM) cydraniad isel, megis OS Map Terrain. Mae'r dull a ddefnyddir yn mynd fel a ganlyn:

  • Efelychu peilonau 27m bob 250m yn unol â'r llwybr a ffefrir gan Green Gen Cymru. Mae hyn yn cyfateb i tua 388 o beilonau.
  • Gosodwyd y peilonau ar hyd llinell ganol y llwybr a ffefrir gan Green Gen Cymru.
  • Defnyddiwyd y LiDAR DTM 1m a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020 i gynrychioli’r dirwedd.
  • Aseswyd Parth Gwelededd Damcaniaethol (ZTV) ar gyfer pob Peilon gan ddefnyddio LiDAR DTM 1m Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn darparu map deuaidd 1m o'r ardal lle gellir gweld y peilon unigol dan sylw.